Croeso i Gynlluniwr Gardd Gwledd Mewn
Gardd!
Cliciwch yma i gael fersiwn hawdd iw brintio o rest o holl
blanhigion sydd yn denu bywyd gwyllt. Rhestr (150kb .PDF)
Pam na wnewch chi ychwanegu planhigion sy’n
gydnaws â bywyd gwyllt i’ch gardd er mwyn cael mwynhau’r pryfed a’r
adar lliwgar a ddaw yno am dro? Fe fydd y cynlluniwr
gardd yma’n eich helpu i greu hafan i fywyd gwyllt yn eich
gardd. Y cyfan sy’n rhaid ichi ei wneud yw dewis tymor
a lliw, ac fe fydd y cynlluniwr yn rhestru planhigion
addas. Wrth gael gwledd yn eich gardd, fyddwch chi byth
yn brin o ymwelwyr.
Gwelwch Daflen (453kb .PDF) a
Phoster (468kb
.JPG) Gwledd mewn Gardd. Ebostiwch ymholiadau@ccw.gov.uk as
ddymunwch gael rhai.
Maniffesto ar gyfer gerddi, pobl a natur
Mae’r Fforwm ar gyfer Garddio gan Gofio am Fywyd Gwyllt, y mae’r
sefydliad hwn yn aelod ohoni, wedi cyhoeddi dogfen o’r enw Let
our gardens live!.
Byddwn yn ychwanegu at nifer y planhigion sydd o fudd i fywyd gwyllt.
Rydym yn croesawu awgrymiadau'n ymwneud a pha blanhigion i'w cynnwys. Anfonwch eich awgrym at: ymholiadau@ccw.gov.uk